Du er ikke logget ind
Beskrivelse
Dyma nofel newydd gan Rebecca Roberts sy''n cydbwyso galar a llawenydd y defodau sy''n fframio stori Gwawr, gan ddangos sut mae colled yn rhan annatod o fywyd.Gweinydd yw Gwawr, sef un sy''n cynnal seremonïau enwi, priodasau ac angladdau digrefydd. Mae hi''n cynnal defodau sy''n helpu pobl i ddathlu diwrnodiau gorau eu bywydau, ac i gofio am y meirw. Mae hi''n dda wrth ei gwaith, ac yn falch o''i henw da. Ond am flynyddoedd lawer mae Gwawr wedi cuddio y tu ôl i''r ddelwedd berffaith mae hi wedi ei chreu; wedi mygu ei hiselder y tu ôl i fwgwd o barchusrwydd a phroffesiynoldeb. Pan gaiff y bai ar gam am ddifetha priodas cleient enwog aiff ei henw da yn deilchion, a does ganddi ddim byd arall i''w chynnal. Yn waeth na hynny, ymddengys bod rhywun yn gweithredu''n faleisus yn ei herbyn – yn benderfynol o''i dinistrio! Dim ond drwy ail-ymweld â chyfnod anoddaf ei bywyd y gall Gwawr ddarganfod pwy sy''n ceisio difetha ei gyrfa a''i busnes. Mae''n brofiad heriol, ydy, ond daw cefnogaeth o gyfeiriadau annisgwyl. Gyda chymorth ei chleientiaid a''i ffrindiau, dysga Gwawr wersi pwysig am natur bywyd, cariad a cholled. Ond ar ôl blynyddoedd o gadw pobl o hyd braich, a fydd caniatáu iddi ei hun fod yn fregus yn arwain at ragor o boendod a thor-calon?